Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 10 Gorffennaf 2017
Amser: 04.00 -
16.18
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/4115
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Neil Hamilton AC Vikki Howells AC Neil McEvoy AC Rhianon Passmore AC |
Tystion: |
Dr Andrew Goodall, Llywodraeth Cymru Alan Brace, Llywodraeth Cymru |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Huw Vaughan Thomas - Archwilydd Cyffredinol Cymru Matthew Mortlock Mike Usher |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod (PDF 999KB) Gweld fel HTML (999KB)
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Lee Waters AC. Ni chafwyd dirprwy ar ei ran.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2.2 Trefniadau Llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru - Trosolwg o Drefniadau Llywodraethu (29 Mehefin 2017). Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn gofyn iddynt graffu ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a'r Gweinidog dros Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y mater hwn, yn ystod eu sesiynau craffu rheolaidd ar waith Gweinidogion.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol/Prif Weithredwr GIG ac Alan Brace, Cyfarwyddwr Cyllid, Llywodraeth Cymru fel rhan o'i ymchwiliad i Weithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014.
3.2 Cytunodd Dr Goodall i anfon manylion pellach am y newidiadau yn y dangosyddion perfformiad sydd wedi digwydd yn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd a chytunwyd i gyhoeddi adroddiad byr.
6.1 Bu’r Aelodau'n trafod y flaenraglen waith a nodwyd ei chynnwys.
6.2 Trafododd yr Aelodau y llythyr drafft ar Gylchdaith Cymru, a'i gytuno, yn amodol ar un neu ddau o fân newidiadau.
7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ac awgrymodd nifer o newidiadau. Bydd y Clercod yn cylchredeg fersiwn ddiwygiedig yn dangos y newidiadau, drwy e-bost.